Gwefannau dwy-ieithog

Arbenigwn yn natblygiad gwefannau dwy-ieithog ac aml-ieithog, Cymraeg / Saesneg yn arbennig. Os siaradir eich cwsmeriaid nifer o ieithoedd mae'n hanfodol i chi siarad â nhw yn eu hoff iaith. (Rydym yn fwy na hapus i drafod busnes gyda'n cwsmeriaid ni drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg, p'un bynnag sy'n well 'da nhw).

Seilir ein gwefannau ar strwythurau sylfaenol dwy-ieithog. Pan rydyn ni'n dylunio gwefan uniaith mae'n defnyddio'r un strwythur aml-ieithog, ond mae dim ond un iaith yn ddilys.

Mae llawer o ddylunwyr gwe di-brofiad yn credu mai creu gwefan dwy-ieithog yn hawdd - jyst mater o greu dau fersiwn y wefan, gyda botwm i fynd i dudalen hafan yr iaith arall. Mae angen llawer mwy na hynny! Mae Technoleg Taliesin yn creu gwefannau llawer mwy hyblyg. Mae'n bosibl i un dudalen cael cynnwys mewn mwy nag un iaith a phan newidith y defnyddiwr iaith y wefan, maen nhw'n yn aros ar yr un tudalen, ond yn yr iaith newydd.

Rydym yn cynnig opsiwn ar fwyafrif ein gwefannau o offer rheoli cynnwys, h.y. offer sy'n rhan o'r wefan sy'n caniatau i'r perchennog golygu cynnwys y wefan (testun, lluniau, pytiau newyddion, digwyddiadau ayyb) ei hun - ac mae'r systemau gweinyddol yn gwbl ddwy-ieithog hefyd.

Wrth amlwg, rydym yn hapus i greu gwefannau uniaith (pa bynnag iaith rydych chi eisiau), ond mae nifer o'n cwsmeriaid ni wedi dewis yr opsiwn ddwy-ieithog. Rydym hefyd wedi creu ychydig o wefannau gyda hyd at chwe iaith (gan gynnwys Bwlgareg!) ar gyfer prosiectau Ewropeaidd

Allwn ni gwneud yr un peth i chi?

Gallwch weld rhai o'n prosiectau yn ein portffolio ni.

detail of latvian menu from futureforest site

Cysylltwch â ni:


Technoleg Taliesin Cyf.
Hafan, Taliesin
Machynlleth
SY20 8JH
Cymru/Wales

+44 (0)1970 832573
+44 (0)7710 430592 (symudol)

ymhol@technoleg-taliesin.com