Dylunio gwe

Darparwn wasanaeth llawn am gynllunio, adeiladu a gwesteio eich gwefan.

  Gan ddibynnu ar eich anghenion, gallwn greu gwefan addas: naill ai gwefan syml, hysbysiadol gyda llond ddwrn o dudalennau neu wefan e-marchnata llawn gyda channoedd o dudalennau.

Nid ystyriwn greu gwefan fel jobyn ar ei ben ei hun,

  y gallwn ni cerdded i ffŵrdd ohono ar ôl gorffen: dylai fod y cam cyntaf mewn perthynas parhaol rhyngddoch chi a ninnau. Fel y newidia a datblyga'ch busnes felly dylai'ch gwefan datblygu i adlewyrchu'r newidiadau. Mynnwn barhau fel rhan o'r datblygiad hwnna.

Yn yr adran hon

 rhown dipyn o'r cefndir i'n hagwedd ni, ac i'r math o wasanaeth y gallwn gynnig i chi. 'Tasech chi am wefan rhad, oddi-ar-y-silff, tebyg nid ydym y bobl ichi. 'Tasech chi am wefan proffesiynol, sy'n adlewyrchu'ch busnes ac sydd wedi'i greu ar gyfer eich union anghenion chi ac anghenion eich cwsmeriaid, wel, dyna rhywbeth gwhanol. Darllenwch ymlaen ac, tasech chi'n feddwl ein bod ni'n y fath bobl eich bod chi am weithio gyda nhw, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.



Cysylltwch â ni:


Technoleg Taliesin Cyf.
Hafan, Taliesin
Machynlleth
SY20 8JH
Cymru/Wales

+44 (0)1970 832573
+44 (0)7710 430592 (symudol)

ymhol@technoleg-taliesin.com