Oes angen gwefan arnoch chi?

Felly, oes angen gwefan arnoch?

 Cwestiwn da iawn, a byddem yn hapus i'ch cynghori i beidio â boddran, oni bai iddo'n addas i chi. Ond erbyn heddiw, fe all bron bob busnes gael budd o wefan o ryw fath, er ei fod e'n bwysig cael y math cywir o wefan, sy'n addas i'r farchnad rydych chi'n anelu ato. Dyma sawl enghreifftiau:

Busnes gwasanaeth bach, e.e. plymwr:

 Efallai bydd safwe un neu ddwy dudalen yn ddigon, sy'n hysbysu bodolaeth y busnes, manylion cyswllt a'r rhywbeth am yr ardal ei bod nhw'n gwasanaethu. Dyna digon i bobl lleol mewn trafferth ddod o hyd iddynt ar Google.

Gwesty bach:

 rhaid dangos manylion llawn am y gwesty o leiaf, gyda ffurflen ymholi ar-lein hefyd. Mae'r wefan yn ychwanegu at hysbysiadau traddodiadol. Pwy yw nod eich marchnata? Tasech chi'n chwilio am ymwelwyr o dramor, beth am rhywbeth yn Ffrangeg neu Almaeneg. Efallai cael cyfleusterau i berchennog y safle rhoi pethau fel 'cynigion arbennig' ar y safle ei hun.

Crefftwr neu gynhyrchwr bach:

 edrychwn yn awr ar bosibiliadau o farchnad fyd-eang (gan ddibynnu ar y cynnyrch) a rhyw fath o e-marchnata. Ar y lleiaf rhaid cael catalog ar-lein (gyda'r gall i'r perchennog ei newid) a ffurflen archebu drwy e-bost. Efallai bydd fantais i gael sustem e-fusnes cynhwysfawr gyda phrosesu cardiau credyd ar-lein a.y.y.b.

Elusen:

 anhebyg bydd arnynt eisiau e-busnes o ddifrif, ond rhaid dangos llawer o wybodaeth, newyddion a.y.y.b., eto gyda modd i'r trefnwyr ei newid. A beth am gylchlythr e-bost rheolaidd?

Rhaid i wefan dda

 fod yn fwy nag atyniadol i'r llygad adeg y dylunio: rhaid iddi edrych yn dda a gweithio yn effeithiol i'ch cwsmeriaid, a all ddefnyddio ystod eang o borwyr, monitors, ieithoedd a chysylltiadau i'r Rhyngrwyd.

Ydy'r golwg a theimlad yn un addas i'ch busnes a'ch cwsmeriaid?
A fydd eich gwefan dal i edrych yn dda ar hen gyfrifiadur a modem araf?
Os mae'n rhy araf ei lwytho, fydd y cwsmeriaid aros i weld y safle?
A allant ddod i hyd i'r pethau eu bod nhw eu heisiau heb anhawster?
Sut mae'n edrych yn y peiriannau chwilio - all darpar cwsmeriaid dod o hyd i'ch safle yn y lle cyntaf?

Mae'r modd yr ydym yn ymdrin ag y pwyntiau uchod yn dibynnu arnoch chi, ar eich busnes ac ar eich marchnad targed, ond rydym eu hystyri nhw I GYD.

I grynhoi felly.

 Nid peth hawdd yw dylunio gwefan effeithiol. Mae llwyth o gwestiynau i ofyn ac i'w hateb cyn iddo wneud. Gwyddom y cwestiynau a, gobeithio, gan gydweithio gyda chi, gallwn eu hateb.


Cysylltwch â Ni:


Technoleg Taliesin Cyf.
Hafan, Taliesin
Machynlleth
SY20 8JH
Cymru/Wales

+44 (0)1970 832573
+44 (0)7710 430592 ()

ymhol@technoleg-taliesin.com