Beth mae Technoleg Taliesin yn cynnig

Mae adeiladu gwefan yn hawdd

. Peth llawer anos yw adeiladu gwefan O SAFON. I ni, datblygiad gwefan yw'r un peth ag unrhyw brosiect TG arall. Rhaid mynd drwy bob cam o'r proses, a chyfeirio nôl atoch ar bob cyfnod:


1. Dadansoddi'ch anghenion
2. Cynllunio'r safle
3. Creu darpar dyluniadau gweledol
4. Creu safle braslun sy'n gweithio
5. Adeiladu'r wefan llawn
6. Profi popeth
7. Adolygu hi gyda chi
8. Cyhoeddi'r safle
9. Anfon y safle at y peiriannau chwilio, trefnu dolennau ayyb
10. Adolygiad a newidiadau

Beth bynnag y mynnoch

, tebyg gallwn ei adeiladu i chi - er bod ofynion od gallu bod yn ddrud! - ond gallant fod yn rhad weithiau hefyd. Dim ond gofynnwch, a gallwn siarad amdani. I ddechrau, gallem ddatblygu gwefannau sy'n cynnwys unrhyw un neu bob un o'r cyfleusterau isod:

Rheoleth cynhwysion - newid y testun, catalog ar-lein ayyb, eich hunan.
Catalog syml (neu gymhleth) ar-lein
E-marchnata llawn (gyda Paypal ayyb.) gan gynnwys system bwcio ar-lein ar gyfer gwestai
Ffurflenni ar-lein (ymholiadau ayyb)
Cylthlythr e-bost i'ch cwsmeriaid
Tudalennau dwyieithog ac amlieithog (gallwn trefnu am y cyfiethiad)
Dogfennau PDF

Ac fel nodweddion safonol

 rydym yn cynnwys ar bob safle:

Ystadegau llawn ar-lein o ddefnydd
Cymorth gyda gwellhau'r testun ar gyfer y peiriannau chwilio
Adolygiad o'r wefan ar ôl 2-3 mis a newidiadau mân sy'n canlyn ym ddim
'Scramblo' cyfeiriadau e-bost er mwyn lleihau'r peryg o atynnu 'spam'.
Trwsio problemau am ddim am chwech mis




Cysylltwch â Ni:


Technoleg Taliesin Cyf.
Hafan, Taliesin
Machynlleth
SY20 8JH
Cymru/Wales

+44 (0)1970 832573
+44 (0)7710 430592 ()

ymhol@technoleg-taliesin.com