A'r pris fydd...?

Felly faint fydd gwefan yn fy nghostio i?

 Mae'n ddrwg gennym, ond ni allwn roi ateb syml. Y peth pwysig yw edrych ar gost y wefan o safbwynt cyfanswm eich cyllideb marchnata. Faint ydych chi'n gwario (neu dylech chi'n gwario) ar farchnata a hysbysu beth bynnag? Os na fydd gwefan yn cynhyrchu busnes ychwanegol, neu cadw busnes sy'n bodoli, neu ostwng treuliau'ch busnes, beth yw pwynt o gael un? Os fydd hi'n mynd i gynhyrchu busnes newydd, faint yw gwerth y busnes hwnnw? Gall wefan ddrwg colli busnes i chi. Gall un cyffredin cael peth effaith, ond fe all un o'r safon gorau costio dim ond tipyn fwy, ac eto gall gael effaith llawer fwy.

Cymharwch bris mathau eraill o hysbysebu

: mae Yellow Pages yn debyg o fod tua £400+ y gyfrol am 1/4 colofn. Mae 'enhanced listing' ar yell.com yn £360 y flwyddyn. Faint yw hysbyseb reolaidd mewn papur lleol? Neu argraffu a dosbarthu sawl mil o daflenni? A chofiwch, bydd y wefan yno 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn, ac mae'n weladwy trwy'ch holl farchnad targed.

A'r pris fydd...?

 Mae sawl cwmni yn fodlon i gynnig pris penodedig o £x am wefan 5 tudalen neu beth bynnag. Ni allwn gynnig pris cadarn cyn i ni edrych ar eich busnes a phenderfynu sut fath wefan sy'n orau i chi. Oherwydd ystyriwn bob cwsmer ar ei ben ei hun a theilwra'n gwaith i'w hanghenion, tebyg na fyddwn yn cynnig y pris rhataf: mae cost am sylw personol. Ond efallai cewch chi syndod dymunol: mae argostau isel gennym, a gallwn fod yn hyblyg iawn!

Oes diddordeb gennych, felly?

 Tasech chi am drafod eich syniadau am wefan gennym, heb unrhyw rwymedigaeth, cysylltwch â ni am sgwrs heb unrhyw rhwymedigaeth.


Cysylltwch â Ni:


Technoleg Taliesin Cyf.
Hafan, Taliesin
Machynlleth
SY20 8JH
Cymru/Wales

+44 (0)1970 832573
+44 (0)7710 430592 ()

ymhol@technoleg-taliesin.com