Dylunio gwe dros Gymru

Ein gwasanaethau:

 Mae Technoleg Taliesin yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau TG i gwmnïau a mudiadau bychain a chanolig eu maint:

Dylunio a datblygu gwefannau
Dadansoddi anghenion
Cynllunio a datblygu systemau
Mewnrwydi
Llunio basau data
Hyfforddiant technegol

Arbenigwn yn y maes o ddylunio gwefannau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg yn bennaf), a systemau rheoli cynnwys, sef system sy'n rhoi i berchennog gwefan y gallu i newid cynnwys eu gwefan eu hunain, pryd bynnag y mynnont.

Gallwn gydweithio gyda chi ar brosiect penodol, a gallwn hefyd gynnig cynhaliaeth, hyfforddiant a gwasanaeth cynnal a chadw i sustemau sy'n bodoli eisoes sy' gennych.

Dylunio gwe:

 Mewn cydweithrediad gyda'n partneriaid mach2media ltd., cynigiwn wasanaeth dylunio a gwesteio gwefannau cynhwysfawr. Ein bwriad yw datblygu gwefannau o'r safon uchaf, wedi'i targedu i ateb anghenion manwl gywir eich busnes a'ch cwsmeriaid.
Cliciwch yma am fwy o fanylion.

Cwmni lleol ar gyfer anghenion lleol:

 oherwydd ein lleoliad yng Ngogledd Ceredigion, rydym yn y lle mwyaf addas i ddelio ag anghenion TG cwmnïau drwy'r Canolbarth a'r Gorllewin. Fel cwmni lleol gwyddom am y manteision ac anfanteision sydd i fyw a gweithio mewn ardal wledig, ac am anghenion arbennig y busnesau wedi'i lleoli yma.

Ein sgiliau:

 Mae gan ein prif ymgynghorydd dros 30 mlynedd o brofiad TG, ac y mae'n brofiadol iawn mewn ystod eang o amgylcheddau technegol.

Cysylltwch â ni:

 Os ydych chi am drafod yr hyn y gall Technoleg Taliesin ei wneud i'ch busnes chi, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni:


Technoleg Taliesin Cyf.
Hafan, Taliesin
Machynlleth
SY20 8JH
Cymru/Wales

+44 (0)1970 832573
+44 (0)7710 430592 (symudol)

ymhol@technoleg-taliesin.com