rhestr o gwsmeriaid sy'n parhau i dyfu. Mae'r rhan fwyaf yn dod o Gymru ac yn ymestyn o sefydliadau mawr, cyhoeddus fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Llambed, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Ceredigion hyd at fusnesau bach, elusennau a grwpiau cymunedol.
Ar y tudalen hwn
mae manylion a dolennau i sawl enghraifft o brosiectau diweddar a chyfoes a gyflenwyd gan y cwmni.
Capel y Garn, Bow Street
Amcanion y prosiect:
Gwefan i hysbysebu manylion gweithgareddau i aelodau'r capel a'r gymuned leol, ac i weithio fel dolen i gyn-aelodau tu hwnt i'r ardal.
Nodweddion arbennig:
Achos arall lle bu system rheoli cynnwys syml yn hanfodol, oherwydd aelodau'r capel sy'n gyfrifol am ysgrifennu a golgu'r cynnwys. Ar wahan i dudalen sy'n cynnig crynodeb yn Saesneg, gwefan uniaith Cymraeg yw hwn, sy'n adlewyrchu prif iaith y capel.