Portffolio: rhai o'n cwsmeriaid a phrosiectau

Mae gan Dechnoleg Taliesin

 rhestr o gwsmeriaid sy'n parhau i dyfu. Mae'r rhan fwyaf yn dod o Gymru ac yn ymestyn o sefydliadau mawr, cyhoeddus fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Llambed, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Ceredigion hyd at fusnesau bach, elusennau a grwpiau cymunedol.

Ar y tudalen hwn

 mae manylion a dolennau i sawl enghraifft o brosiectau diweddar a chyfoes a gyflenwyd gan y cwmni.

Ysgol Gymunedol Penrhyn-Coch

Amcanion y prosiect:

Gwefan i fod yn ffynhonell gwybodaeth ar gyfer rhienni a darpar-rhienni.

Nodweddion arbennig:

Roedd angen offer rheoli cynnwys syml er mwyn i'r prifathro a'i staff golygu cynnwys y wefan eu hunain. Y Gymraeg yw prif iaith yr ysgol, ond gwefan gwbl ddwyieithog yw hwn.

Nodweddion technegol:

Mae'r system rheoli cynnwys yn defnyddio PHP a MySQL.

Aeth y wefan yn fyw ym mis Gorffennaf 2005

Gwefan fyw:

http://www.penrhyncoch.ceredigion.sch.uk/

Prosiect gynt  Prosiect nesaf