rhestr o gwsmeriaid sy'n parhau i dyfu. Mae'r rhan fwyaf yn dod o Gymru ac yn ymestyn o sefydliadau mawr, cyhoeddus fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Llambed, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Ceredigion hyd at fusnesau bach, elusennau a grwpiau cymunedol.
Ar y tudalen hwn
mae manylion a dolennau i sawl enghraifft o brosiectau diweddar a chyfoes a gyflenwyd gan y cwmni.
Cyd
Amcanion y prosiect:
Mudiad cenedlaethol oedd Cyd, a oedd yn anelu at helpu pobl sy'n dysgu Cymraeg fod yn siaradwyr rheolaidd, rhugl. Buont yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol i ddod â dysgwyr a siaradwyr rhugl ynghyd. Bwriad y wefan, drwy gymorth ariannol y Loteri, oedd helpu i bobl dysgu am Cyd ac i helpu gyda chyfathrebiad o fewn y mudiad. Lansiwyd y wefan yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym mis Awst 2005.
Nodweddion arbennig:
Roedd angen system rheoli cynnwys syml. Y Gymraeg yw brif iaith Cyd, felly prif iaith y wefan yw'r Gymraeg. Mae'r system weinyddol yn ddwyieithog. Oherwydd amcanion Cyd, nid oedd gwefan gwbl ddwyieithog yn addas. Yn hytrach na hyn, mae sawl techneg wedi'u defnyddio i helpu defnyddwyr llai hyfedr yn y Gymraeg. Un o brif bwrpasau'r wefan oedd helpu cyfathrebu mewnol, felly roedd angen parth 'preifat' ar gyfer staff ac ymddiriedolwyr. Mae'r wefan hefyd yn gynnwys archif llawn 'Cadwyn Cyd', cylchgrawn y gymdeithas, fel ffeiliau PDF.
Gan ddilyn diddymiad Cyd fel mudiad genedlaethol yn 2008, mae'r wefan yn parhau, ond wedi cael ei symleiddio er mwyn fod yn archif ac adnodd i grwpiau lleol.
Nodweddion technegol:
Mae'r system rheoli cynnwys yn defnyddio PHP and MySQL.