Portffolio: rhai o'n cwsmeriaid a phrosiectau

Mae gan Dechnoleg Taliesin

 rhestr o gwsmeriaid sy'n parhau i dyfu. Mae'r rhan fwyaf yn dod o Gymru ac yn ymestyn o sefydliadau mawr, cyhoeddus fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Llambed, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Ceredigion hyd at fusnesau bach, elusennau a grwpiau cymunedol.

Ar y tudalen hwn

 mae manylion a dolennau i sawl enghraifft o brosiectau diweddar a chyfoes a gyflenwyd gan y cwmni.

Lloffion - Pytiau o Hanes Cymru a thu hwnt

Amcanion y prosiect:

Datblygwyd y wefan hon er mwyn cyhoeddi copïau digidol o lyfrau a phamffledi diddorol sy'n allan o hawlfraint.

Mae'r dogfennau yn cael eu sganio, wedyn mae rhaglen OCR yn troi'r ddelwedd yn destun. Wedyn maen nhw'n cael eu cyhoeddi ar y wefan mewn amryw ffurfiau: delwedd pob un tudalen ynghyd a ffeil PDF o'r holl gyfrol. Gellir chwilio testun y llyfr hefyd.

Mae'r wefan yn gynnwys 'Google Adwords' fel arbrawf, i weld os oes modd cynhyrchu incwm at gostau hostio'r wefan.

Nodweddion technegol:

Datblygwyd y safle yn PHP. Mae sganio ac OCR yn defnyddio Abbyy Finereader.

Gwefan fyw:

http://www.lloffion.org.uk/

Prosiect gynt  Prosiect nesaf