Portffolio: rhai o'n cwsmeriaid a phrosiectau

Mae gan Dechnoleg Taliesin

 rhestr o gwsmeriaid sy'n parhau i dyfu. Mae'r rhan fwyaf yn dod o Gymru ac yn ymestyn o sefydliadau mawr, cyhoeddus fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Llambed, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Ceredigion hyd at fusnesau bach, elusennau a grwpiau cymunedol.

Ar y tudalen hwn

 mae manylion a dolennau i sawl enghraifft o brosiectau diweddar a chyfoes a gyflenwyd gan y cwmni.

Oriel Spectrum, Machynlleth

Amcanion y prosiect:

Gwefan ar gyfer oriel celf ym Machynlleth.

Arddangosir Oriel Spectrum ystod eang o weithiau celfyddydol - paentiadau, ceramigau, gwydr a gemwaith, ac mae'r wefan yn darparu man arddangos i'w gwaith.

Mae offer rheoli cynnwys syml yn cynnig i'r perchnogion llwytho delweddau a newid a golygu manylion y gweithiau.

Partneriad datblygu:

Prosiect ar y cyd gyda mach2media yw hwn.

Gwefan fyw:

http://www.spectrumgallery.co.uk/

Prosiect gynt  Prosiect nesaf