Portffolio: rhai o'n cwsmeriaid a phrosiectau

Mae gan Dechnoleg Taliesin

 rhestr o gwsmeriaid sy'n parhau i dyfu. Mae'r rhan fwyaf yn dod o Gymru ac yn ymestyn o sefydliadau mawr, cyhoeddus fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Llambed, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Ceredigion hyd at fusnesau bach, elusennau a grwpiau cymunedol.

Ar y tudalen hwn

 mae manylion a dolennau i sawl enghraifft o brosiectau diweddar a chyfoes a gyflenwyd gan y cwmni.

Gwefan gymunedol Trefeurig

Amcanion y prosiect:

Datblygu gwefan cymunedol i fod yn ffynhonell canolog o wybodaeth am weithgareddau a chyfleusterau yn yr ardal.

Nodweddion arbennig:

Roedd system rheoli cynnwys syml yn hanfodol, oherwydd byddai nifer o bobl wahanol yn gyfrifol am olygu cynnwys y wefan. Hefyd, roedd rhaid iddo fod yn ddwyieithog, i adlewyrchu'r ffaith fod mwyafrif y boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae'n defnyddio tudalen hafan ddwyieithog, ac wedyn mae dewis o dudalenau uniaith ar bynciau gwahanol.

Nodweddion technegol:

Mae'r wefan yn defnyddio PHP a mySQL.

Gwefan fyw:

http://www.trefeurig.org/

Prosiect gynt  Prosiect nesaf