Portffolio: rhai o'n cwsmeriaid a phrosiectau

Mae gan Dechnoleg Taliesin

 rhestr o gwsmeriaid sy'n parhau i dyfu. Mae'r rhan fwyaf yn dod o Gymru ac yn ymestyn o sefydliadau mawr, cyhoeddus fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Llambed, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Ceredigion hyd at fusnesau bach, elusennau a grwpiau cymunedol.

Ar y tudalen hwn

 mae manylion a dolennau i sawl enghraifft o brosiectau diweddar a chyfoes a gyflenwyd gan y cwmni.

Canolfan Organig Cymru

Amcanion y prosiect:

Rhan o Brifysgol Aberystwyth yw Canolfan Organig Cymru, sy'n darparu gwybodaeth a chyngor ar ffermio organig i nifer o grwpiau gwahanol - defnyddwyr, cynhyrchwyr, ysholion ayyb. Bu angen arnynt am wefan newydd, deniadol sy'n hawdd i'w llywio ar gyfer y defnyddwyr amrywiol. Bu rhaid gefyd cael gwefan gwbl dwyieithog.

Nodweddion technegol:

Mae'r wefan yn defnyddio offer rheoli cynnwys Technoleg Taliesin.

Partneriad datblygu:

Cynllun gweledol y wefan oedd gan mach2media

Aeth y wefan yn fyw ym mis Tachwedd 2009

Gwefan fyw:

http://www.organiccentrewales.org.uk

Prosiect gynt  Prosiect nesaf