Tystebau
Dyma rhai o'r pethau da mae ein cleintiaid wedi dweud amdanom dros y blynyddoedd!
"Mae Technoleg Taliesin yn gwmni gwybodus, cyfeillgar a chydwybodol. Yn ogystal â chreu ein gwefan, maent wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd, gan ymateb i’r datblygiadau technolegol diweddaraf."
Garmon Gruffudd, Y Lolfa
http://www.ylolfa-print.com
"Wedi cydweithio â Technoleg Taliesin ar fwy nag un wefan – i Gymdeithas Emynau Cymru, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac i Gapel y Morfa, Aberystwyth. Mae’r cwmni bob amser yn barod i drafod a datblygu’n gall ac yn synhwyrol, a phleser yw trafod busnes gyda nhw yn Gymraeg."
Rhidian Griffiths
http://www.canugwerin.com | http://www.capelymorfa.org
"Mae Technoleg Taliesin yn cynnig gwasanaeth ardderchog. Maent yn barod i wrando ar anghenion y cwsmer ac yn awyddus iawn i ymateb. Rydym wedi derbyn gwasanaeth arbennig gan y cwmni ers 2008."
William a Glenys Howells, Gwefan Gymunedol Trefeurig
http://www.trefeurig.org
"Bu Technoleg Taliesin yn weithgar iawn yn uwchraddio gwefan Canolfan Owain Glyndwr ym Machynlleth. Roedd y broses yn un eithaf syml ond holwyd cwestiynau pwrpasol am yr elfennau oedd y Ganolfan eisiau eu cynnwys, iaith y wefan, pa luniau oedd yn briodol ac yn y blaen. O fewn ychydig amser 'roedd gwefan newydd gan y Ganolfan am bris rhesymol. Rwyf yn hapus iawn i gymeradwyo gwaith Technoleg Taliesin."
W.Thomas, Canolfan Owain Glyndwr Centre, Machynlleth
http://www.canolfanglyndwr.org